Costa

Enillydd gwobr Costa eleni am y nofel orau ac mi fydd allan mewn clawr papur yr wythnos yma, mae nofel ddiweddaraf Kate Atkinson Life After Life yn bleser pur o’i dechrau i’w diwedd. Cawn hanes bywyd Ursula Todd a mwy nac un fersiwn o’i marwolaeth; od medde chi, ond nofel am yr ail gyfle ydy hon. ‘Beth petai ?’fel petai. Mae’r prif gymeriad yn chwarae rhan bwysig yn hanes yr Ugeinfed Ganrif, yn wir yn y bennod gyntaf un mae Hitler yn cael ei lofruddio.  Mae sawl fersiwn o nifer o ddigwyddiadau yn cael eu hadrodd. Rhywsut neu’i gilydd, er y cymlethdodau yma, dydy’r nofel ddim yn ddryslyd. Mae yna rhyw deimlad bod unrhywbeth yn bosib. Mae hefyd yn saga deulol arbennig gan bod ei chymeriadau yn gafael ynddoch o’r cychwyn.

Woman’s Hour

Dwn i ddim os oes yna le i raglen fel ‘Woman’s Hour’ ar y radio erbyn hyn (er mod i’n gwrando ac yn mwynhau pan gai gyfle). Mae yna ambell gyfraniad sy’n chwerthinllyd fel yr un ar ‘scrunchies’ yn ddiweddar. Ond un peth maen nhw’n ei wneud yn dda iawn ydy cyflwyno nofelau ar ffurf darlleniadau chwarter awr y dydd.  Mae gen i ffrind sy’n dda  am yrru awgrymiadau am lyfrau i mi a dwi’n amau mai ar Woman’s Hour y clywodd hi am y nofel yma – Gillespie and I gan Jane Harris.

Gosodir y nofel yn Glasgow ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn Llundain yn nhridegau’r ugeinfed ganrif. Mae’r nofel yn cychwyn mor ddiniwed a hoffus ac yn eich camarwain yn llwyr. Harriet Baxter sy’n dweud y stori am ei pherthynas gyda’r artist Ned Gillespie  a’i deulu a’i golwg unllygeidiog hi ar y digwyddiadau sy’n gwneud y nofel yn un i godi braw. Mae yna dristwch a doniolwch a phob elfen arall sydd ei angen i wneud nofel dda; un i’w mwynhau yn ystod nosweithiau tywyll Ionawr ddywedwn i.

Golwg Newydd 2014

Dwi wedi darllen cymaint o bethau da ers i mi gofnodi ola ac mae gen i awydd rhoi tro arall ar y blog – pam ddim! O leia mi fydd yn help i mi gofio’r hyn dwi wedi ei ddarllen. Beth am adael awgrym am lyfr da i mi yn 2014? Dwi ar Twitter erbyn hyn (@sgentilyfrimi). Wedi newid golwg y blog hefyd, mae newid yn chênj medde nhw.

Hen, hen stori

Bron iawn nad ydw i eisio darllen dim byd negyddol mewn adolygiad o lyfr; mae’n well gen i benderfynu drostaf fy hun ar ôl darllen nofel. Mi fydda’ i’n hoffi cael ryw syniad o’r stori a chlywed am y cefndir neu’r awdur, ond pan wela i ormod o ddadansoddi a hwnnw’n llawdrwm fedrai ddim meddwl am droi at y llyfr. Nid yr un peth sy’n apelio at bawb. Falle ddyliwn innau ddim rhoi sêr.

Mae yna wythnosau wedi mynd heibio ers i mi ddarllen am y nofel yma yn y papur Sul a gweld bod y cefndir a’r awdur yn apelio. Es i ati wedyn i’w harchebu o’r llyfrgell – delfrydol. Dwi newydd ei gorffen –  The Liars’ Gospel gan Naomi Alderman.

Stori ydy hi am yr Iddew ifanc Yehoshuah sy’n crwydro gwlad Judea gyda’i ddilynwyr; mae’n pregethu ac yn iachau cleifion. Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd? Y Rhufeiniad sy’n rheoli’r wlad ar y pryd a blwyddyn ar ôl marwolaeth Yehoshuah  cawn ei hanes drwy lygaid pedwar cymeriad – ei fam Miryam;  Iehuda, oedd yn ffrind iddo unwaith; Caiaphas yr offeiriad a Bar-Avo sy’n dipyn o rebel. Ail-weu’r stori hynaf un sydd yma ond mae’n teimlo’n hynod o gyfoes i mi.  Difyr, difyr.

Cynnwrf

Os hoffech chi fod yn rhan o Noson Llyfr y Byd 2013, cliciwch yma i wneud cais i rannu llyfr. Mae’n hawdd i’w wneud, mae’r dewis yn eang ac mae’n hwyl! Beth am ddweud mwy wrthon ni yn y sylwadau?

Llynedd mi ges i fy newis cyntaf, cliciwch yma i weld be ges i ac mae’r hanes i gyd ar y blog. Dwi’n barod wedi gwneud fy newis am 2013…

Cofiant arall

Cofiant i Charles Dickens y tro yma, a wir, mi wnes i fwynhau pob munud o lyfr Claire Tomalin sy’n portreadu’r awdur lliwgar, egnïol ac anhygoel o gynhyrchiol yma. Mae’n llawn o fanylion am bobl a llefydd, am ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd, am deulu a ffrindiau a gelynion – yr holl amrywiaeth enfawr o elfennau yr oedd Dickens yn ganolbwynt iddynt. Camp Claire Tomalin yw dod â’r rhain i gyd at ei gilydd i greu llyfr ysgolheigaidd sy’n darllen fel nofel.

Difyr iawn oedd darllen am gymeriadau Dickens oedd wedi eu seilio ar bobl go iawn yn ei fywyd a’r modd y defnyddiodd ei fagwraeth dlodaidd ac ansefydlog yn gefndir i nifer o olygfeydd yn y nofelau. Wyddwn i ddim cyn hyn gymaint o ymgyrchu wnaeth o i wella cyflwr bywyd merched a phobl difreintiedig na’i fod o’n actor. Ond doedd o ddim yn sant o bell ffordd. Darllenwch Charles Dickens a Life i werthfawrogi aml-ochredd y dyn rhyfeddol yma. *****

Cofiant

Mi brynais i The Lady and the Peacock gan Peter Popham yn y maes awyr cyn mynd ar fy ngwylie haf gan feddwl y byddai gen i ddigon o hamdden i’w ddarllen, heb feddwl am funud nad oedd o’r math o lyfr mae rhywun yn ei ddarllen ar draeth. A prin ei gyffwrdd wnes i’r adeg honno; doedd o ddim yn ddarllen hawdd a ffwrdd â hi .

Mae’r cofiant hwn i Aung San Suu Kiy  yn taflu golau ar fywyd dynes ryfeddol ac unigryw yn ein hanes cyfoes.  Dynes sydd wedi aberthu cymaint o’i bywyd personol er mwyn ei gwlad a phobl ei gwlad ac sy’n chwarae rhan flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Burma heddiw. Er imi orfod  ymdrechu ar adegau i ddilyn y stori gyda’i chymeriadau niferus dwi’n falch iawn imi ddyfalbarhau.

Ysbrydoliaeth

Dwi wedi gadael i bethau fynd, pethau eraill wedi mynd â ’mryd, heb blogio ers oes, ond hwre mae yna bobol sy’n dal i ddarllen sgentilyfrimi, mae fy ‘stats’ yn dweud wrtha i! Diolch.

Wnai ddim sôn gair am y enillydd y Man Booker, dwi ’di gwneud digon o hynny’n barod y llynedd, dim ond i ddweud ipi Hilary Mantel! Sut, sut, sut mae hi’n ’i wneud o?

Falle bydd ’na fwy o hamdden i ddarllen ar ôl i ni droi’r clociau a mae arna i angen ysbrydoliaeth am beth i’w ddarllen nesa; dwi ’di bod yn gwneud y tro efo llyfrau sydd wedi bod o gwmpas y tŷ ers talwm. Dwi’n gweld argymhellion drwy’r adeg ar flogiau neu yn y papur ond byth yn cofio gwneud nodyn ohonyn nhw ond dwi wedi cadw’r rhestr yma gan India Knight ar gyfer rhyw funud fel hon. Cliciwch yma rhag ofn bod rhywbeth at eich dant a gadwch i ni wybod os ydach chi wedi darllen un ohonyn nhw.