Llyfrau’r haf 6

Allwch chi ddim rhoi ei ffydd mewn beirniaid eisteddfodol bob tro siwr iawn ond mi wnaethon nhw ddewis arbennig o dda yn dyfarnu Afallon Robat Gruffudd fel ennillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni. Rhys John sy’n dweud ei stori ei hun yn gadael Berlin ar ôl bod yno’n gweithio am gyfnod go hir. Mae’n setlo’n ôl yn Abertawe ac mae’r antur yn cychwyn o’r fan honno. Mae’r bennod ble mae o’n mynd â’i dad oedrannus a’i gyfaill i gêm bêl-droed yn wych. Rhan o’r pleser i mi wrth ei darllen oedd cael nofel Gymraeg wedi ei gosod mewn cefndir dinesig anghyfarwydd i mi – fues i ’rioed yn Abertawe na Berlin. Roedd yna rywbeth yn ffres ac yn newydd am hon ac mi wnes i ei llarpio.

Llyfrau’r haf 5

Mae ’na amser maith ers i mi ddarllen llyfr mewn diwrnod ond doedd gen i ddim byd arall yn galw ac roedd hi’n tatsio glawio eto felly dyma fi’n bwrw ati efo hon, Untold Story gan Monica Ali. Ddarllenes i Brick Lane ganddi rai blynyddoedd yn ôl a dwi’n cofio i mi ei mwynhau – cafodd ffilm ei gwneud ohoni dwi’n meddwl. Newydd weld ar y linc yma fod ganddi ddwy nofel arall – llyfrgell amdani.

Roedd y stori’n gafael o’r cychwyn a dwi ddim eisio difetha’r peth i neb felly dim ond dweud mai stori sydd yma am Lydia yn dewis gadael pob dim a byw bywyd newydd yn America. Hen drawiad medde chi ond na, mae yna fwy i’r stori dreiddgar yma. Enw’r dre ble mae hi’n byw ydy Kensington. Ddylie hynna roi cliw i chi!

Pen-blwydd hapus!

Mae’r blog yn flwydd oed heddiw. Cliciwch yma, yma ac yma i weld y cofnodion cyntaf. Diolch i bawb sy’n dilyn neu sydd wedi dangos diddordeb drwy adael sylw – mae’n braf rhannu. Mae darllen drwy Blogiadur yn ffordd dda o ddod o hyd i bethau newydd; beth am fynd draw i chwilio?

Mi fydd Sgen ti lyfri mi yn ôl fory efo Llyfrau’r Haf 5.

Llyfrau’r haf 4

Gan ’mod i wedi cael cystal blas ar Blasu yn ddiweddar (cliciwch yma), nofel Gymraeg arall oedd fy newis nesa ac ro’n i’n reit hapus pan ddalltais mai nofel hanesyddol oedd hi – Mab y Cychwr gan Haf Llewelyn (’dach chi’n gwybod erbyn hyn ’mod i’n hoffi nofel hanesyddol!)

Roedd rhaid i mi ddarllen hon yn reit ofalus oherwydd ro’n i’n tueddu i ddrysu rhwng y cymeriadau a’r lleoliadau a dwi ddim yn un dda am ail-ddarllen ar y gorau.  Ac er ei bod wedi ei hysgrifennu’n gelfydd a bod y ddeialog yn gredadwy, doedd ’na’m digon o stori ynddi i mi, felly  ***.

Llyfrau’r Haf 3

Mi gafodd y ffilm The Woman in Black lawer iawn o sylw pan ddaeth allan yn gynharach eleni, efallai mwy o sylw nag oedd hi’n haeddu wir – mae’n siwr gan mai Daniel Radcliffe oedd yn chwarae’r brif ran a phawb eisiau gweld oes oedd o’n gallu gwneud rhywbeth gwahanol i Harry Potter.

Beth bynnag, awdures y llyfr The Woman in Black ydy Susan Hill a nofel ganddi hi oedd un arall o’m detholiad yr haf yma – In The Springtime of the Year. Mae’n ingol a theimladwy ond ddim be ro’n i eisio ar y pryd; mae’n bwysig dydy cael llyfr sy’n gweddu i’ch hwylie! Mi wn y baswn i wedi mwynhau’r nofel yn fwy o flaen tanllwyth o dân ar gyda’r nos ddiflas yn enwedig taswn i wedi darllen yr hyn sydd gan yr awdures ei hun i’w ddweud am y nofel cyn ei darllen.

Llyfrau’r haf 2

Ffrind awgrymodd hon i mi ac ro’n i angen ‘page turner‘ i ’nghadw fi fynd yn y maes awyr, a waw, mi wnaeth y tric – Before I Go to Sleep gan S.J. Watson. Mae’r prif gymeriad, Christine, wedi colli ei cho’ – yn llythrennol felly, nid yn yr ystyr ei bod hi’n drysu, ac mae’n dechrau pob diwrnod o’r newydd. Dychmygwch y problemau – deffro pob dydd heb syniad yn y byd pwy ydach chi. Difyr, difyr.

Ro’n i wedi cymryd yn ganiataol mai dynes oedd S.J. Watson ond yn ddiddorol iawn does yna ddim byd ar y clawr nac yn broliant sy’n dweud hynny. Dwi’n dal i ddweud mai dynes ydi hi, dim ond dynes allai feddwl fel hyn!

Llyfrau’r haf 1

Fesul un fyddai orau i sôn am lyfrau’r haf felly dyna wna’ i nes bydda’ i wedi eu rhestru i gyd.

Nofel eitha cynnar ydy The Swimming Pool Season gan un o fy hoff awduron –  Rose Tremain. Dwn i ddim be ydy ei chyfrinach hi, ond mae ei chymeriadau hi mor amrywiol a digon od ar adegau ond ar yr un pryd yn hollol gredadwy. Wedi’w gosod yn rhannol yn Ffrainc (ac yno y darllenais i hi)  mi atgoffodd fi o sylw adawodd Delolian pan o’n i’n sôn am nofel arall.

Swnio fel jesd y peth ar gyfer gwyliau cynnar mewn carafan yn Ffrainc. Oes na awgrymiadau ar gyfer llyfrau eraill ar thema gwyliau? Hotel Marigold yn orfodol ar gyfer trip i’r India; Rebecca a The Woman in Black ar gyfer penwythnos hir yn Cernyw a llyfrau hudolus Carlos Ruiz Safon – yn cynnwys Shadow of the Wind yn Barcelona. Be arall tybed?

Cliciwch yma i gael gwybod pa nofel oedd dan sylw.

Yr Haf!

Dydw i ddim yn darllen rhyw lawer ar y funud – cadw fy llyfrau tan y gwylie! Beth bynnag, rhag ofn bod yna unrhywun yn chwilio am rywbeth i’w ddarllen yr haf yma edrychwch am nofel gan Sebastian Barry; mae’n awdur toreithiog gyda llwyth o wobrau i’w enw.

Willie Dunne ydy arwr y nofel A Long, Long Way a’r  Rhyfel Byd Cyntaf ydy’r cefndir. Mae hi’n nofel sy’n darllen bron fel barddoniaeth a fedrwn i ddim peidio â meddwl amdani ar ôl ei gorffen. Aelod arall o deulu Willie Dunne ydy prif gymeriad On Canaan’s Side – ei chwaer, Lilly a hanes ei bywyd ar ôl iddi symud i fyw i America ar ddiwedd y rhyfel ydy’r cefndir. Stori arall arbennig, ac yn deimladwy. Cefndir gwahanol sydd i A Secret Scripture ond mae hi’n stori sy’n gafael ac wedi ei hysgrifennu’n gelfydd. Dwi’n rhoi pump seren i’r awdur yma!

Cromwell

Thomas Cromwell

Dwi’n teimlo ’mod i wedi bod yn byw efo Thomas Cromwell yn ddiweddar ac wedi dod i’w ’nabod yn reit dda, ac os ydw i’n onest, dwi ychydig bach, bach mewn cariad efo fo. Mae’n anodd peidio â bod – mae portread Hilary Mantel ohono yn un mor fyw a charismatig. Mae wedi llwyddo unwaith eto yn Bring up the Bodies i ddarlunio ei  chymeriadau hanesyddol yn gelfydd a lliwgar drwy ddefnyddio’i dychymyg ynghyd ag ymchwil eang i ddogfennau hanesyddol. Rhan Thomas Cromwell yn nghwymp Anne Boleyn ydy’r stori. A ipî, mae ’na un arall i ddod!

Rwan ta, mae Wolf Hall a Bring up the Bodies yn llyfrau mawr, swmpus ac mi fyddan nhw’n drwm yn eich cês i fynd ar wyliau. Os ydach chi’n chwilio am reswm da i brynu darllenydd e-lyfr, dyma fo i chi!

Trip da!

Deuddydd ges i yng Ngŵyl y Gelli a chyfle i glywed dwy yn siarad am eu gwaith ac yn cael eu holi sef Hilary Mantel (Bring up the Bodies) ar y dydd Sadwrn a Caitlin Moran (How to Be a Woman) ar y dydd Sul. Os ydach chi’n hoff o ddarllen ac os nag ydach chi wedi bod yno, trïwch fynd, mae’n ticio’r bocsus i gyd! Mae’r ŵyl yn mynd ers pum mlynedd ar hugain heb i mi fynd yno, ond mi fydda i’n gwneud fy ngorau i fynd yn rheolaidd o hyn ymlaen. Rhaid astudio’r rhaglen yn fanwl cyn mynd – bydd honno’n dod allan tua mis Mawrth; wedyn archebu tocynnau a lle i aros. Mi fyddai’n braf cael llety yn agos at y Gelli hefyd; mae cymaint i’w wneud yno gyda’r nos. Mae’r ‘maes’ (ond dydy o ddim fel maes y ’Steddfod) dafliad carreg o dre’r Gelli sy’n werth ymweld â hi am y siopau bach diddorol – nid dim ond llyfrau sydd yno.  Mae’r dre’n chwarae rhan bwysig yn yr ŵyl – rhywbeth sydd ddim mor wir bellach yn achos y ’Steddfod .

Mwy am Bring up the Bodies tro nesa.