Enillydd

Oes ’na well diffiniad o ‘lyfr da’ na’i alw fo’n un dach chi wedi mwynhau ei ddarllen? Allech chi gael gwahanol resymau am ei fwynhau siwr iawn: falle’ch bod chi’n uniaethu efo un o’r cymeriadau; neu falle’ch bod wedi dysgu rhywbeth newydd; neu dach chi wedi chwerthin llond eich bol. Ond ar ddiwedd y sioe, cael mwynhad ydy’r peth mwyaf does bosib.

Mae ’na nofelau go astrus wedi ennill y Man Booker yn y gorffennol ac mae’n siwr mai adlewyrchiad ar y beirniaid ydy hynny. Un eithriad i mi oedd enillydd 2009 sef Wolf Hall gan Hilary Mantel – clasur o nofel hanesyddol am Thomas Cromwell a chyfnod y Tuduriaid (*****).  Mae beirniaid eleni wedi dweud eu bod yn chwilio am nofel ddarllenadwy fydd yn diddanu’r darllenwyr. Newyddion da felly ’swn i’n gobeithio. Gawn ni glywed pwy sy wedi ennill ar Hydref 18fed.

Mae nofel arall gan Hilary Mantel – Beyond Black – ar fy rhestr Nadolig i.

Gadael sylw