World Book Night

Dwi wedi gwneud cais i gael rhannu llyfrau ar World Book Night ond dydw i ddim yn disgwyl y caf fy nerbyn rhywsut; mae’n siwr fod yna filoedd wedi dewis yr un llyfrau â fi. Roedd rhaid dewis tri allan o’r rhestr o bump ar hugain (mae’r rhestr i’w gweld ar y wefan) a dyma ddewisais i – dim ond am fy mod yn meddwl eu bod nhw’n wych: Book Thief gan Markus Zusak; Small Island gan Andrea Levy a Room gan Emma Donoghue. Mi faswn i’n berffaith hapus i argymell y tri, mae’n nhw’n haeddu ***** yr un a phleser pur fyddai cael eu rhannu. Cawn weld! Mae’r dyddiad cyhoeddi ar Chwefror yr 17eg.

Falle cadwai  gopi i’w rannu efo un o ddilynwyr Sgentilyfrimi? 

Gadael sylw