Croesair
Diwrnod y Llyfr a Dydd Gŵyl Dewi ar yr un diwrnod; digon o ddathlu i ni felly yr wythnos yma. Mae gofyn i Sgen ti lyfr i mi? wneud ymdrech arbennig!
Ond dwi wedi sylweddoli ’mod i ar ei hôl hi’n ofnadwy lle mae llyfrau Cymraeg yn y cwestiwn. Rhoi cynnig ar groesair y Cyngor Llyfrau yn fy mhapur bro wnes i a ’mond rhyw lond dwrn o’r cliwiau fedrwn i eu hateb. Dwi’m yn amau fod gan hyn rywbeth i’w wneud â’r cyfaddefiad wnes i yma ond wir, mi fydd rhaid i mi wneud rhywbeth am hyn. Mae Mawrth 1af yn gyfle newydd – ond lle i ddechre?
Y Llew Gwyn

Nofel gan Michael Morpugo
Mae angen stori i gynhesu’ch calon chi weithiau ’does? Mae hon wedi bod gen i ers tipyn ar fenthyg ond dim ond yr wythnos yma wnes i gyrraedd i’w darllen, a wir, roedd hi jyst be ro’n i angen. Michael Morpugo ydy’r awdur – enw sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar oherwydd llwyddiant yr addasiadau o’i lyfr War Horse, yn ddrama yn gyntaf ac wedyn yn ffilm.
Ond nofel The Butterfly Lion oedd yn aros amdana i. Yn ôl yr awdur mae hon yn un o’i hoff nofelau o tua cant mae o wedi eu hysgrifennu. Rhyw gwta awr gymrith hi i chi ei darllen ac mae’r print yn fras – handi – ond mae’r stori am Bertie a’i gariad at lew bach gwyn mae o’n ei achub yn ei blentyndod, yn ddigon i’ch codi chi allan ohonach eich hun rywsut ac mae’n cyffwrdd ar bethau mawr bywyd mewn ffordd gynnil. Ac er mai ar gyfer plant y cafodd hi ei hysgrifennu, mae hi’n nofel i oedolion ei hedmygu a’i mwynhau. *****
World Book Night – rhan 2
Wel, coeliwch neu beidio ond dwi’n cael rhannu llyfrau ar Ebrill 23ain – wedi gwirioni! Deud dim mwy ar y funud, jyst ’mod i wrth y modd, ac ydy, mae o’n un o’r tri ddewisais i.
Chwerthin!

Peth od ydy chwerthin wrth ddarllen ’de? Mae o braidd yn debyg i gael eich dal yn canu yn y car yn y goleuadau – crinj. Fydda i’m yn amal yn chwerthin yn uchel wrth ddarllen i fod yn onest. Mae gen i ffrind oedd yn arfer lladd ei hun yn chwerthin dros lyfrau P.G. Wodehouse, tybed ydy hi o hyd? Mi brynes i Dyn Pob Un, nofel gan Euron Griffith, fel anrheg i mi fy hun gan fod rhywun arall wedi dweud ei bod wedi gwneud iddi chwerthin yn uchel ac mi wnaeth y tric i minnau. Mae ’na ambell olygfa hollol hurt a bisâr ac mae’n dipyn o donic ac yn rhwydd iawn i’w darllen.
’Swn i’n gallu gwneud efo dod o hyd i lyfr Cymraeg doniol arall os oes gan rhywun argymhelliad – ond nid hunangofiant, plîs – gormod o’r rheini o gwmpas.
Bodlon

A dyma fi’n dod o’r diwedd at un o fy llyfrau Nadolig – dwn i’m lle’r aeth yr amser. Dwi’m am siarad am y lleill tan dwi wedi eu darllen, oherwydd cofnod o be dwi’n ddarllen ydy’r blog yma i fod!
Anrheg oedd hwn – Bodlon, Byw’n hapus ar lai gan Angharad Tomos, ac mi roedd o’n union be ro’n i angen ar bnawn tywyll dros ddyddiau diog y Gwylie. Ac er na fydd yn newid fy mywyd fel mae’r broliant yn dweud, mi roedd yna ddigon o bethau difyr ynddo fo a digon i wneud i mi feddwl. Pytiog ydy’r arddull – sy’n gweddu i’r cynnwys i’r dim ac mae’r lluniau yn mynd â chi i ryw fyd arall, brafiach, mwy hamddenol (tudalen 31 er enghraifft). Does ’na ddim byd yn hunan-gyfiawn na phregethwrol ynddo fo ac mae hynny’n gamp o ystyried y pwnc.
Dwi newydd edrych drwyddo fo eto a gweld ambell berl o gyngor fel ‘cofia orffwys’ a ‘gwella dy hun drwy chwerthin’. Jyst be dwi angen heddiw!
World Book Night
Dwi wedi gwneud cais i gael rhannu llyfrau ar World Book Night ond dydw i ddim yn disgwyl y caf fy nerbyn rhywsut; mae’n siwr fod yna filoedd wedi dewis yr un llyfrau â fi. Roedd rhaid dewis tri allan o’r rhestr o bump ar hugain (mae’r rhestr i’w gweld ar y wefan) a dyma ddewisais i – dim ond am fy mod yn meddwl eu bod nhw’n wych: Book Thief gan Markus Zusak; Small Island gan Andrea Levy a Room gan Emma Donoghue. Mi faswn i’n berffaith hapus i argymell y tri, mae’n nhw’n haeddu ***** yr un a phleser pur fyddai cael eu rhannu. Cawn weld! Mae’r dyddiad cyhoeddi ar Chwefror yr 17eg.
Falle cadwai gopi i’w rannu efo un o ddilynwyr Sgentilyfrimi?
‘Page turner’ yn Gymraeg?
Weithie dim ond ‘page turner‘ wnaiff y tro. Ches i ddim help wrth drïo meddwl am derm Cymraeg am ‘chick lit‘ ond falle gwnaiff rhywun gyfieithu ‘page turner‘ i mi? Ond ’dach chi’n gwybod be dwi’n feddwl. Mae ’na sothach sâl – ac ma’ bywyd rhy fyr i drafferthu efo hwnnw – ac mae ’na sothach da ac mae nofelau John Grisham fel fferins Haribo i mi – mymryn bob hyn a hyn yn gwneud dim drwg o gwbwl. Dydy The Confession ddim yn siomi. Er bod rhywun yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl gan yr awdur mae’n sgrifennu yn fyrlymus ac mae’n llwyddo i gadw’r tensiwn a’r cynnwrf yn mynd tan y diwedd un. Mae’r darlun o fyd gwleidyddol Texas yn un brawychus, ysgytwol a chyfreithiwr ’run fath â Robbie Flak fyddech chi eisio ar eich hochor tasech chi’n ffeindio’ch hun yn cael eich cyhuddo ar gam fel gwnaeth Donte Drumm. ****
Gŵyl y Gelli
Dwi ’di bod yn deud ers blynyddoedd bellach mod i eisio mynd i Wyl y Gelli; mi fuo’r ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn digwydd yr un adeg yn fy rhwystro am gyfnod. Be sy’n fy rhwystro rwan? Wel, dim ond rhyw deimlad mai yn Eisteddfod yr Urdd y dyliwn i fod, yn lle ’mod i’n treulio fy ngwyliau yn gwrando ar awduron dwi’n eu darllen yn siarad am eu gwaith ac yn rhannu eu profiadau. Erbyn meddwl, does ’na ddim cystadleuaeth wir nagoes!
Does yna fawr ddim o wybodaeth ar y wefan am yr Wyl eleni chwaith; oes na rywun yn gwybod pryd maen nhw’n arfer cyhoeddi’r rhaglen? Dwi’n dallt fod Hilary Mantel yno, yn siarad am ei nofel ddiweddaraf – yr un sy’n dilyn Wolf Hall, ac roedd honno’n glasur. Digon o reswm ynddo’i hun i fod yno. ’Leni amdani falle.
Silff a siop
Rhag ofn bod ’na rywun allan yn fan’na yn aros yn eiddgar i mi ychwanegu at y blog, mae hwn ar dy gyfer di! Mae Pickwick Papers yn mynd â mwy o amser nag o’n i’n feddwl ond mi rydw i’n dal i ddarllen rhai blogs. Dach chi’n gwbod yn barod mod i’n ffan o The Women’s Room a dyna lle ces i hwn - rhywle arall i fynd i’w weld ar y trip ’na i Lundain!
Tra dwi wrthi, dwi wedi sylw mod i’n cael llawer mwy o ddarllenwyr os ydw i’n sôn am rywbeth Cymraeg. Ar yr un llaw dwi’n falch fod ’na fwy yn darllen ond ar y llall dwi’n gorfod gofyn pam mai ’mond am bethau Cymraeg maen nhw eisio darllen? Mm… mi wnai adael honna efo chi …
Sgrîn
Dwn i ddim pa mor amal mae Sgrîn yn cael ei gyhoeddi ond dwi’n ei dderbyn drwy’r post bob hyn a hyn. Dros y Gwylie mi wnes i gyrraedd i’w ddarllen o glawr i glawr. Mae o’n gylchgrawn sylweddol ac mae’r diwyg yn fy mhlesio’n fawr; lluniau da, llawn lliw a dim sglein, a’r cyfan wedi’i argraffu ar bapur trwchus wedi’w ail-gylchu. Digon i bori ynddo yn y cynnwys ac un erthygl yn arbennig a wnaeth i mi edrych ymlaen am y gyfres newydd ‘Mamwlad’ sy’n dechrau’n fuan ar S4C.
Mae Ffion Hague wedi gwneud hyn o’r blaen wrth gwrs wrth drafod y merched ym mywyd Lloyd George, ond allai ddim cofio p’un ai’r llyfr The Pain And The Privilege: The Women In Lloyd George’s Life ddaeth allan gynta ta’r rhaglen deledu. Beth bynnag, roedd y llyfr yn gampwaith hynod o ddifyr, llawn ymchwil ond yn ddarllenadwy hefyd. Tybed oes yna lyfr o’r gyfres ‘Mamwlad’ i ddod?
