Ysbrydoliaeth
Dwi wedi gadael i bethau fynd, pethau eraill wedi mynd â ’mryd, heb blogio ers oes, ond hwre mae yna bobol sy’n dal i ddarllen sgentilyfrimi, mae fy ‘stats’ yn dweud wrtha i! Diolch.
Wnai ddim sôn gair am y enillydd y Man Booker, dwi ’di gwneud digon o hynny’n barod y llynedd, dim ond i ddweud ipi Hilary Mantel! Sut, sut, sut mae hi’n ’i wneud o?
Falle bydd ’na fwy o hamdden i ddarllen ar ôl i ni droi’r clociau a mae arna i angen ysbrydoliaeth am beth i’w ddarllen nesa; dwi ’di bod yn gwneud y tro efo llyfrau sydd wedi bod o gwmpas y tŷ ers talwm. Dwi’n gweld argymhellion drwy’r adeg ar flogiau neu yn y papur ond byth yn cofio gwneud nodyn ohonyn nhw ond dwi wedi cadw’r rhestr yma gan India Knight ar gyfer rhyw funud fel hon. Cliciwch yma rhag ofn bod rhywbeth at eich dant a gadwch i ni wybod os ydach chi wedi darllen un ohonyn nhw.
Hiya- wedi cael fy newis i gael “Little Face” 20 Copi diwedd mis nesa. Wyt ti isho copi? Weali di mis nesa’ Ruth
>
Mi faswn i wrth y modd – diolch. Wedi bod yn llwyddiannus hefyd; mwy i ddilyn!