Llyfrau’r haf 5

Mae ’na amser maith ers i mi ddarllen llyfr mewn diwrnod ond doedd gen i ddim byd arall yn galw ac roedd hi’n tatsio glawio eto felly dyma fi’n bwrw ati efo hon, Untold Story gan Monica Ali. Ddarllenes i Brick Lane ganddi rai blynyddoedd yn ôl a dwi’n cofio i mi ei mwynhau – cafodd ffilm ei gwneud ohoni dwi’n meddwl. Newydd weld ar y linc yma fod ganddi ddwy nofel arall – llyfrgell amdani.

Roedd y stori’n gafael o’r cychwyn a dwi ddim eisio difetha’r peth i neb felly dim ond dweud mai stori sydd yma am Lydia yn dewis gadael pob dim a byw bywyd newydd yn America. Hen drawiad medde chi ond na, mae yna fwy i’r stori dreiddgar yma. Enw’r dre ble mae hi’n byw ydy Kensington. Ddylie hynna roi cliw i chi!

About these ads

Tagiau: ,

2 Responses to “Llyfrau’r haf 5”

  1. Mae Diane yn dweud:

    Diolch am yr awgrymiad. Doeddwn i ddim wedi clywed amdano cyn i fi ddarllen dy adolygiad. Er i’r llyfr gael sylwadau cymysg ar Amazon, mae gen i fwy o ffydd mewn adweitthiau pobl sy’n caru llyfrau na mewn adweithiau pobl sy’n falle caru yn fwy…pwnc y nofel.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: