Llyfrau’r haf 4
Gan ’mod i wedi cael cystal blas ar Blasu yn ddiweddar (cliciwch yma), nofel Gymraeg arall oedd fy newis nesa ac ro’n i’n reit hapus pan ddalltais mai nofel hanesyddol oedd hi – Mab y Cychwr gan Haf Llewelyn (’dach chi’n gwybod erbyn hyn ’mod i’n hoffi nofel hanesyddol!)
Roedd rhaid i mi ddarllen hon yn reit ofalus oherwydd ro’n i’n tueddu i ddrysu rhwng y cymeriadau a’r lleoliadau a dwi ddim yn un dda am ail-ddarllen ar y gorau. Ac er ei bod wedi ei hysgrifennu’n gelfydd a bod y ddeialog yn gredadwy, doedd ’na’m digon o stori ynddi i mi, felly ***.
Penblwydd hapus Sgen tilyfr i mi! Blwyddyn lewyrchus o ddarllen amrywiol! Dalier ati – ys dywedai adroddiadau ysgol ers talwm.
Dw i hanner ffordd drwy nofel hanesyddol newydd arall: Nest, gan B. Sian Reeves.
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781843239482&tsid=12
Mae’n weddol dda — tipyn bach yn repetitive, bod yn onest. Hyd yn hyn, mae’n rhoi mwy o bortread cyfnod y Pla Du na phortread Dafydd ap Gwilym.
Diolch am yr awgrym!